Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Diesel engine from Newport Gas Works
Pan sylweddolwyd, yn 1860s, y gellid distyllu olew crai yn wahanol gydrannau, gwnaethpwyd arbrofion i addasu’r injan nwy i’w galluogi i losgi rai o’r cydrannau hyn. Fe’u datblygwyd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys yr injan ddiesel heddiw.
Yr injan ddiesel yma mae’r diferynnau o aer ac olew yn y silindr yn twymo cymaint wrth gael eu cywasgy nes eu bod yn tanio’n ddigymell. Does dim angen gwreichionyn trydanol arni fel ambell injan betrol ac olew arall.
Adeiladwyd yr injan yn 1951 gan y National Gas and Oil Company, ac fe ddaeth o Waith Nwy Casnewydd. Mae wedi ei chyplysu â chywasgydd a bwmpiai nwy i mewn i’r prif ffrwd yn y Gwaith Nwy. Roedd hi’n bwysig bod y cywasgydd yn cadw gwasgeddy y nwy yn y brif ffrwd yn uwch na gwasgedd atmosfferig. Petai’n disgyn yn is na hynny byddai aer yn cael ei sugno i mewn i’r brif ffrwd gyda chanlyniadau trychinebus, o bosib, pe agorid tap nwy.
Gyda dyfodiadnwy naturiol yn y cwedegau caewyd y gweithiau nwy lleol yn raddol ac fe gafodd cannoedd o rai tebyg i’r injan hon eu taflu ar y clwt cyn pryd.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984