Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pwll Nofio wedi’i ddylunio gan Alain Capeilleres. Le Brusc, Var, Ffrainc
Yn ei phortreadau a’i ffotograffau dogfennol, roedd Martine Franck yn canolbwyntio ar fenywod, artistiaid a chymunedau ymylol wrth iddi geisio archwilio’r cyflwr dynol. Mae ei gwaith yn cael ei nodweddu gan ei dynoliaeth a’i pharch at ei phynciau. Yn y ffotograff du a gwyn yma, gwelwn sawl menyw’n ymlacio ar ddecin pwll cerfluniol yn ne Ffrainc – gyda rhai ohonyn nhw’n sgwrsio neu’n gwneud ymarfer corff ysgafn, tra bod eraill yn mwynhau teimlad golau’r haul ar eu croen. Mae’r llun yn cyfleu eiliadau hyfryd a digymell bywyd bob dydd, a manteision iechyd a lles ymlacio.