Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Palazzo Eleanora Duse, Venice
Mae'r gwaith hwn yn dangos, ar y chwith, y Palazzo Barbaro-Wolkoff, ac ar y dde y Palazzo Dario ger ceg y Gamlas Fawr. Mae'n debyg i hwn gael ei beintio ym 1901 yn ystod un o'r ymweliadau niferus a wnaeth Sickert â Fenis rhwng 1895 a 1904. Byddai Sickert yn lletya gerllaw ac yn aml yn mynd i'r 'converzationi 'yn y Palazzo Dario. Roedd gan yr actores Eleonora Duse (1858-1924) lety ar lawr uchaf y Palazzo Barbaro-Wolkoff. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1935.