Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffotograff (digidol) | photograph (digital)
Ffotograff digidol du a gwyn o brotest Black Lives Matter (Mae Bywydau Du o Bwys) a gynhaliwyd ym Marc Bellevue, Wrecsam, ar 7 Mehefin 2020. Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones.
"Mi nes i ddechrau tynnu llyniau pan oeddwn i yn 18 o dirweddau Gwynedd. Roeddwn i erioed wedi bod greadigol fel plentyn ac yn hoffi arlunio tirweddau lleol. Ar ôl i mi gael camera, mi nes i dynnu lluniau ymhob agwedd o ffotograffiaeth – tirwedd, priodasau, digwyddiadau, gwaith hyrwyddo ac ati. Ar ôl cwblhau cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai (Bangor), fues i am dair blynedd yn astudio Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Ers i fi adael prifysgol, dw i wedi bod yn gweithio ar greu dogfennau am bynciau gwahanol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys projectau am chwarelwyr, Covid-19 a Black Lives Matter. Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn gweithio ar broject o'r enw 'Diwylliant' sy'n edrych ar amrywiaeth o ddiwylliannau gwahanol yn Wrecsam, a phrofiadau unigolion o fyw yn y dref a'u perthynas gyda Heddlu Gogledd Cymru". Carwyn Rhys Jones, Tachwedd 2020.