Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Kenroy Levy
Ganed Kenroy Levy yn Jamaica yn 1968, ond setlodd yng Nghasnewydd ychydig o flynyddoedd ar ôl cyrraedd Llundain yn 2002.
“[Yn Jamaica] roedd plentyndod yn beth strict iawn, yn wahanol i’r holl gyfleoedd sydd ar gael i blant heddiw, doedd dim llawer o gyfleoedd i ni, bryd hynny...”
“Dyma’r Famwlad... roedden ni i gyd yn dysgu hynny... yn yr ysgol gynradd, yna yn yr ysgol uwchradd, dyna oedden nhw’n ei ddweud wrthym ni... wyddoch chi, os... os mai hon yw’r Famwlad, pam mae angen rhyw bethau penodol arnaf i fynd i weld fy mam?”
Ar ôl gyrfa lwyddiannus ym myd athletau, mae bellach yn gweithio’n agos gyda’r gymuned yng Nghasnewydd ac yn helpu i’w chefnogi. Ond mae’n credu bod angen gwneud mwy i gefnogi cymunedau lleol.
“Mae gen i lawer o deulu yma, fe ddaeth fy nhad yma yn y 70au ond nid dyma oedd y lle iddo fe, felly ar ôl chwe mis, aeth e adref.”
“Gyda’r gweithgareddau rwy’n eu gwneud nawr, rhwng y nosweithiau pan fydd pobl yn dod i fy nhŷ i chwarae dominos, cael barbeciw bach, a gwahodd ffrindiau draw i’r ardd gefn, rydyn ni’n gwrando i gerddoriaeth, siarad am straeon yr hen ddyddiau, geiriau roedden ni’n arfer eu defnyddio, rydyn ni’n sgwrsio am bwdin a ‘pone’ [pwdin tatws melys]... a phethe felly, rydyn ni’n chwerthin yn iawn am dyfu i fyny yn yr hen ddyddiau, pethau bach felly sy’n fy nghadw i fynd.”
“Felly, nid yw’n hawdd nid fel mae’r system yn smalio bod...”
“Rwyf wedi gweld llawer o dwf yng Nghymru ers imi symud yma... [ond], fe ddwedaf weithiau nad mater o roi mil o bunnau imi mewn arian gleision yw ef, ond mater o roi’r seilwaith yn ei le, i alluogi’r gwaith i barhau.”