Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Wniadwraig
Bu Sylvia Gosse, merch yr awdur Syr Edmund Gosse, yn astudio yn yr Academi Frenhinol ac yn ysgol Sickert. Ym 1910-14 yr oedd yn gyd-bennaeth, ac ym 1914 bu'n helpu sefydlu Grŵp Llundain. Roedd yn well gan Gosse olygfeydd trefol, tu mewn adeiladau neu ffigyrau o ferched wedi eu peintio mewn lliwiau tawel gyda gwaith brws toredig. Gwrthrych y portread hwn yw Christine Angus (1877-1920). Roedd yn wnadwraig gelfydd iawn a hefyd yn un o gyn-fyfyrwyr Sickert, a daeth yn ail wraig iddo ym 1911. Prynodd Margaret Davies y gwaith ym 1948.