Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Dogfen yn y Saesneg o'r enw 'Report from Maesteg' a ysgrifennwyd yng Ngorffennaf 1945 gan G. Elfed Jones, ac yn cynnwys nodiadau ar amrywiaeth o bynciau yn ymwneud a diwylliant gwerin ardal Morgannwg a Sir Gaerfyrddin. Roedd y ddogfen yn ymateb i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1937, ar ddiwylliant gwerin Cymru.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.