Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Potyn Mawr Glas
Am filoedd o flynyddoedd, mewn llawer o ddiwylliannau ledled y byd, mae pobl wedi gwneud cysylltiadau symbolaidd rhwng y corff dynol a llestri serameg. Gall y corff ymddangos fel cynhwysydd ar gyfer yr ysbryd, tra bod gan botiau wddf, bol, traed. Mae'r pot hwn gan Alison Britton yn adleisio ffurf torso dynol ac yn dod â'r traddodiad hynafol hwnnw i'r byd cyfoes. Mae potiau Britton wedi'u hadeiladu o slabiau ac wedi'u paentio'n fynegiannol; mae hi'n archwilio ffurfiau llestri, gan fwriadu i ni ymchwilio iddyn nhw â'n llygaid a'n meddyliau yn hytrach na'u defnyddio. Mae hi’n disgrifio ei gwaith fel “bywyd llonydd o bot wedi’i wneud â chlai”.