Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Golygfa o Afon Gwy
Yn y braslun olew bychan hwn gwelwn ffigyrau mewn cychod yn hwylio ar hyd Afon Gwy dan awyr gymylog. Roedd Afon Gwy yn gyrchfan boblogaidd i artistiaid, awduron ac ymwelwyr, yn enwedig wedi i William Gilpin gyhoeddi Observations on the River Wye ym 1782. Honnai Gilpin bod yr afon yn esiampl o’r picturesque – ‘y math o brydferthwch sy’n weddus mewn darlun’ – a buan y daeth yr ardal yn gyrchfan i dwristiaid ar deithiau Picturesque ffasiynol. Denwyd Thomas Jones at Afon Gwy cyn i syniadau William Gilpin ddod yn boblogaidd. Cafodd ei hudo ganddi ac fe’i paentiodd nifer o weithiau, cyn ysgrifennu cerdd iddi yn ei henaint, Petraeia (1795). Credwn i Thomas baentio’r braslun hwn ym 1772, tra’n ymweld â’i deulu ym Mhencerrig cyn teithio i’r Eidal. Os felly, dyma un o’r paentiadau cynharaf o’r afon. Mwy na thebyg taw golygfa gyfansawdd ydyw – cyfuniad o sawl elfen o wahanol leoliadau. Canfuwyd y gwaith gan Miles Wynn Cato, oedd hefyd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil sy’n sail i’r wybodaeth hon. Cadarnhawyd y dyddiad tebygol ac enw’r artist gan Greg Smith, cyd-olygydd catalog Thomas Jones 2003.