Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Frenhines ar ei ffordd i agor y Cynulliad Cenedlaethol newydd, Stryd Bute, Caerdydd
Tynnwyd y ffotograff hwn yn 1999, ac mae'n darlunio’r Frenhines Elizabeth II, y Tywysog Philip a'r Tywysog Siarl ar eu ffordd i agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol newydd, a oedd yn arwydd o drosglwyddo pŵer deddfwriaethol hunanlywodraethu o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru. Pleidleisiodd Cymru o blaid datganoli yn dilyn refferendwm yn 1997. Mae’r cerbyd brenhinol yn pasio graffiti sy’n darllen ‘Independant Tropical Wales’, y gellid ei ddehongli fel gweithred gynnil o brotest yn erbyn sofraniaeth a’r undeb. Yn ddoniol, mae’n ymddangos bod ymgais wedi bod i gywiro’r sillafiad ‘independant’ cyn yr ymweliad Brenhinol.