Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Plasty Margam, Morgannwg, tua'r Gogledd
Ochr ddeheuol Plasty Margam oedd prif fynedfa'r plasty hwn o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg.
Ar waelod y darlun, gallwch weld teithwyr yn pasio'r gatiau. Mae lôn goed yn arwain at ail fynedfa, gyda gardd ddŵr ffurfiol tu hwnt.
Pan ailwampiwyd llety'r mynachod yn gartref yn y 1550au gan Syr Rice Mansel, penderfynodd gadw'r porthdy canoloesol. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o'r adeilad â'r talffenestri ar y dde a'r tŵr canolog yn dyddio o oddeutu 1600. Serch hynny, parhaodd y teulu Mansel i addasu a gwella'r plasty, ac roedd yr adain ar y chwith wedi'i moderneiddio a'i hymestyn tua deng mlynedd ar hugain ynghynt.
Mae pobl yn chwarae bowls o flaen y tŷ gwledda yng nghornel dde'r darlun. Mae ceirw'n pori yn y parc, ac fe welir perllannau â mur o'u cwmpas a thai allan. Mae'r arlunydd wedi addasu amlinelliad y tri bryn yn y cefndir i fframio'r plasty yn ei dirwedd.