Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ynys Lawd, Caergybi
Mae'r llun hwn, wedi ei lofnodi â'r llythrennau H.K. yn dangos y goleudy a orffennwyd ym 1809 a'r bont grog sy'n cysylltu'r graig a Môn ac a godwyd ym 1827. Saif Ynys arw Lawd i’r gogledd orllewin o arfordir Sir Fôn. Yn rhan ohoni, mae rhai o greigiau hynaf Cymru. Mae’r olygfa hon yn dangos y goleudy enwog, gafodd ei orffen ym 1809, a’r bont grog sy’n cysylltu’r ynys â’r tir mawr, gafodd ei hadeiladu ym 1827. Disgrifiodd Thomas Roscoe yr olygfa yn ei waith 'Wanderings and Excursions in North Wales, ' a gyhoeddwyd ym 1836: 'Yr oedd ei safle hollol unigryw, y lle gwyllt a'r awyr wag - mor anghyffredin fel na fyddwn wedi rhyfeddu mwy pe bawn wedi fy nghludo'n sydyn i ben draw'r byd'.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.