Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Addoliad y Bugeiliaid
Mae llusern egwan yn bwrw goleuni ar y Crist newydd-anedig. Mae Mair ei fam yn dal ynghwsg ond mae'r bugeiliaid, a ddaeth liw nos i dalu gwrogaeth i'r Baban Iesu, wedi deffro Joseff. Yn draddodiadol fe'u darlunnir yn addoli'r Iesu, ond yn y darlun hwn gwelwn y foment pan gyrhaeddodd y bugeiliaid y stabl yn annisgwyl. Mae amseru dramatig Van den Eeckhout a'i ddefnydd o olau theatrig yn dangos dylanwad ei athro a'i gyfaill, Rembrandt.