Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Notes
Nodiadau gan Miss Auriol Thomas, Llandysul, ar 'Batrwm Bwydydd a Chadw Ty' mewn atebiad i Holiadur Amgueddfa Werin Cymru, 1971. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.
Tudalen 1/Page 1
Patrwm Bwydydd a Chadw Tŷ
Tŷ Gwladwr
A.
1. Bwyteid cawl gan amlaf i ginio, ond ambell waith, cawsai ei ail dwymo i swper os fyddai peth ar ôl.
2. brecwast - wŷ wedi berwi, uwd, cig moch a wyau.
cinio – cawl neu bwyd y cybudd, sef cig mochyn a wynwyn wedi cael eu berwi gyda tatws
te – bara ac ymenyn, jam, caws, bara brith, tarten a byns
swper – cig oer a thatws wedi eu ffrio, cawl wedi ei ail dwymo neu bara llaeth.
brecwast – 8:00 a.m. tê – 4:00 p.m.
cinio – 12:30 p.m. swper – 8:00 p.m.
3. Yn y gaeaf ceir tê a biscedi, ond ni cheir ddim yn yr haf. Gelwir hwn yn ‘Dê Deg’
B. 1. brecwast – te a bara a menyn, caws cinio – tatws a chig oer. tê - yr un fath ar [sic] gaeaf swper – salad 2. amser Nadolig – mwy o felysion, a bwyd drud, sef, ffrwythau – dathlu geni’r Iesu. 3. haf – cynheuafau[sic] gwair a thatws. 4. Ar ddydd Sul ceir cig fres [sic], tatws, gravi[sic], ac amryw o lysiau. 5. Prynnir[sic] ffagodau, sosej, cig moch, a phicls wynwyn yn y farchnad.
C. 1. cig fres[sic] neu cyw iâr, amryw o lysiau, tatws wedi eu rhostio, tatws ac wedyn pwdin reis. 2. Nac oedd – dim prydiau[sic] oer.
CH 1. gwraig y fferm 2. un o’r morynion yn helpu’r wraig
Tudalen 2/Page 2
D. 1. gegin, parlwr, ystafell fwrdd a llaethdŷ
- ystafell bwrdd. (gelwir hon yn ystafell ford)
- yn y llaethdŷ.
- eu roi [sic] I mewn yn y llaethdŷ ar y meinciau oer, neu mewn cypyrddau mawr
Dd. 1. yn y gegin. 2. yn y gegin fach 3. ystafell fwrdd. 4. yn y gegin efo’r teulu
E. 1. a) boiler sgot?? b) dysl bridd neu eu hongian i lawr o’r nenfwd. c) ffiolau, basn, a llwyau pren.
2 a) yr oedd llawer o’r bobl yn gwneud llestri pren eu hunain, ond yr oedd turnwyr lleol i’w gael. b) prynnwyd [sic] y rhain mewn siop lestri. c) copr, pres a tsieni [sic] – mewn siopau eto.
F 1. Dydd Llun – golchi a smwddio. “ Mawrth – rhoi glanhau’r llofft. “ Mercher – glanhau’r gegin, a gwneud mân bethau eraill, wedyn mynd i’r farchnad yn y prynhawn. Dydd Iau – glanhau’r tŷ drwyddo, fel dod ar [sic] matiau allan i’w ysgubo, a sgleinio’r celfi. Yn yr haf cawsai’r ffenestri eu glanhau hefyd. Dydd Gwener – Diwrnod prysur, pobi bara a gwneud cacennau erbyn y Sul. Dydd Sadwrn – Paratoi erbyn y Sul – rhostio’r cig a gwneud y pwdin. Glanhau’r tatws a’r llysiau i gyd. Dydd Sul – mynd i’r cwrdd. 2. Rhaid oedd ysgubo’r clos a glanhau esgidiau’r teulu i gyd, a thynnu’r dillad gorau allan o’r cwpwrdd
** Tudalen 3/Page 3**
i’w caledi erbyn y Sul.
Ff.
G. 1. Yn yr haf, byddai’r gŵr yn glanhau’r ardd, a thorri’r cloddiau. Byddai’r wraig yn glanhau’r drôrau. Ambell i noswaith, bydant yn paentio’r drysau tu allan, a’r glwyd. 2. Nid oedd llawer o waith yn mynd ymlaen y tu allan yn y gaeaf am fod y dydd yn fyr. Byddai’r wraig yn gwnio’r dillad y plant (chotio’r), a gwau’r hosannau, ac hefyd siwmperau.
Ng. 1. Cinio dydd Sul oherwydd fod ganddynt gyw iâr neu gig fres [sic] ac amryw o lysiau. Ar hyd yr wythnos yr oeddynt yn cael bwyd mwy syml. 2. cenhin [sic], persli, wynwyn a safri. 3. cennin syfi, sibwn, a mint.
H. 1. Cawsai ymenyn i wneud o tua fis Mai i fis Medi, am fod y gwartheg allan yn pori, felly yr oedd ganddynt fwy o laeth. b) Yr oedd y caws yn cael eu[sic] wneud pan oedd y llaeth a dim digon o hufen i wneud ymenyn. Cawsai eu [sic] wneud yn yr haf, ac wedyn eu [sic] storio erbyn y gaeaf. c) Cawsant datws newydd tua fis Mai, ac hefyd llaeth enwyn am fod ymenyn yn cael ei wneud ch) diwedd y Gwanwyn – sibwn, letys, berwr, ffa, pys, Haf – moron, panas, a ffa ffrengig. d) ‘Roedd y bara ceirch yn cael ei baratoi erbyn y cneifio, fel rhyw fwyd arbennig gyda bara ymenyn a chaws. Cawsai ei fwyta hefyd pan fyddai pobl ddieithr yn ymweld â’r teulu. dd) Cedwi’r[sic] y rhain mewn ffordd arbennig erbyn y gaeaf.
Tudalen 4/Page 4
e) Bwyteid pysgod. Ceid rhai o’r môr mewn siop bysgod, ond deliwyd rhai mewn afonydd agos. Ceir un neu fwy o fathau o bysgod drwy’r flwyddyn. f) cegddu, hadog, lleden, macrell – o’r môr. brithyll, gwyniedyn ac eog – yn yr afonydd agos ff) Bwytawsant gwningen wedi ei rhostio, berwi, neu mewn stiw. Yr oedd ysgyfarnog yn cael ei ystyried fel moethyn. Rhostiwyd ffesant.
I a) Bwytawyd crempog ar Fawrth Ynyd ac amser benblwydd y feistres. – Chwerfor 23ain. b) bwytawyd cig llo ar y pasg c) Cynhaeaf gwair – berwi’r cig moch a serio y croen â siwgwr brown, tatws newydd, pys, wedyn digon o bwdin reis a chwrens, ac ar ôl y cyfan, yfant ddigon o gwrw sinsir o waith cartref. ch) I swper ar ôl gorffen y cynhaeaf, cawsant gig oer, bara ymenyn, a bara brith. d) gwŷdd, bara ymenyn, a llaeth. dd) gwŷdd neu porc.
L a) lladdwyd mochyn tua fis Tachwedd. b) c) ch) saets, teim, persli, a cennin syfi, safri. d) gwneud llawer o jam – mwyar, plums, gwsberins, cwrens coch a du. dd) Na. e) Byddant yn piclo wynwyn a bresych coch. f) Cochwyd pysgod.
Ll. 1. bara llaeth, sucan, wyiau[sic]. 2. rhosmari i annwyd ac hefyd blodau’r ysgawen.
Tudalen 5/Page 5
M. llaeth buwch, wyau ac uwd
N. 1) Berwi cig mochyn neu eidion 2)
O. Bara menyn, caws, cacennau – cacen ferem, a teisen lap.
P. a) gwneud bara planc, tato rhost a thato drwy’r pil.
Ph. a) b)
R. 1) y wermod lwyd, y gamil, rhosmari 2) rhai – ee, eli eryrod.
Tudalen 6/Page 6
iii) Na
Rh. 1. swatio hwy 2. cathod a trapiau 3. holltu a’u hongian 4. camphor 5. mynd allan ar gwely plu unwaith y flwyddyn
S. 1. 2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr. 3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf. 4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. b) gwely pluf 5. 6.
T 1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio. 2. tê, swgwr [sic], blawd. 3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy
Tudalen 7/Page 7
iii) Na
Rh. 1. swatio hwy 2. cathod a trapiau 3. holltu a’u hongian 4. camphor 5. mynd allan a’r gwely plu unwaith y flwyddyn.
S. 1. 2. Dechrau’r flwyddyn – gwneud siwt i’r gŵr. 3. Gwinio. Prynasant y gwlanen yn ffair Glyngaeaf. 4. a) ffatrioedd gwlan a’r marchnadoedd. B) gwely pluf 5. 6.
T 1. arian y wyau. Yr oedd y gŵr yn gweithio. 2. tê, swgwr [sic], blawd. 3. cael y defnydd yn y ffair a gwna’r teiliwr hwy. 4. Cael eu gwneud gan seiri. Na.
Th. 1. Dillad hen am y plant; byw mewn tai bach – teuluoedd mawr iawn. 2. os byddai’r haf wedi bod yn wlyb a’r cynhaeaf wedi eu distriwio. 3. Oedd. Eu llosgi. 4. gwerthu wyau, ymenyn, cyw iar, gw^yddau a llaeth enwyn.