Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mam a Phlentyn
CARRIÈRE, Eugène (1849 - 1906)
Ar y darlun hwn o tua 1890 mae arysgrif yn Ffrangeg: 'i'r bardd Mathias Morhardt gyda chariad'. Ym 1898 cymharwyd Carrière yn ddeallus gan Morhardt â Rodin: 'Mae ei ymgais i fodelu fel cerflunydd yn amlwg yn ei ofal i astudio'r wyneb dynol o dan elfennau golau a chysgod, gan osgoi pob dyfais liw i sicrhau effaith lachar...mae urddas tawel ac aruchel yn ei alluogi, drwy feistroli naws a thôn, i roi grym rhyfeddol i'w fodelu.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym 1914.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.