Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sir Josiah John Guest (1785-1852)
Ymunodd Guest â’i gwmni teuluol, y Dowlais Iron Company ym Merthyr Tudful, ym 1807. Dowlais oedd un o weithfeydd haearn mwya’r byd yn ystod ei oes, diolch i’r galw mawr am arfogaethau yn rhyfeloedd Napoleon a’r holl ddatblygiadau rheilffyrdd ar hyd a lled y byd. Ef oedd Aelod Seneddol cyntaf Merthyr Tudful, ac roedd addysg ei weithlu a’u teuluoedd o bwys mawr iddo.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.