Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Parchedig Christmas Evans (1766-1838)
Ganwyd William Roos yn Amlwch, ac yn ystod y 19eg ganrif cafodd beth llwyddiant yng Nghymru a thu hwnt yn bennaf fel artist portreadau. Gyda thwf y dosbarth canol roedd mwy o bobl yn eiddgar i wario eu harian ar y celfyddydau, a byddai artistiaid teithiol fel Roos yn gallu adeiladu gyrfa drwy symud o dref i dref yn gwerthu eu crefft cyn symud ymlaen. Roedd William Roos ei hun yn dibynnu bron yn gyfangwbl ar noddwyr o Gymru. Ganwyd Christmas Evans ar ddydd Nadolig 1766 gan dyfu’n un o bregethwyr annibynnol mwyaf grymus ei oes. Fel diwygiwr tanbaid roedd yn enwog am gynhyrfu cynulledifa i arswyd neu berlewyg crefyddol gyda’i bregethu dramatig a llawn hiwmor. Mae portread Roos yn cyfleu nerth corfforol y dyn a oedd, yn ôl pob sôn, yn saith troedfedd. Un llygad oedd ganddo, gyda’r ail soced ddall wedi’i gwnïo ynghau. Fe baentiodd Roos y Parchedig am y tro cyntaf ym 1835 yn ei gartref (roedd y ddau ar y pryd yn gymdogion) a rhannu’r ddelwedd fel engrafiad mezzotint. Mae arysgrif ar y paentiad yn datgan ‘Y Pregethwr perffeithiaf a gynhyrchodd Cymru erioed’ a ‘byd o syniadau’.