Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chair
Cadair Eisteddfod Ffair y Byd Chicago a chynhaliwyd ym 1893. Cafodd yr Eisteddfod wahoddiad i ddinas Chicago - i ffair ryngwladol yn dathlu 400 mlwyddiant glaniad Columbus yn yr Amerig.
Roedd Eisteddfod Chicago yn sioe fawreddog o Gymreictod. Ymwelodd tua 40,000 o bobl â'r Eisteddfod bedair diwrnod, yn bennaf o hufen gymdeithas Cymru-America. Ond beirdd, cerddorion a chorau o Gymru a enillodd y rhan fwyaf o'r cystadlaethau.
Aeth y gadair i Evan Rees (Dyfed), enillydd deg cadair cyn hynny. Bu'n Archdderwydd o 1905 hyd ei farwolaeth ym 1923.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
23.146.1
Derbyniad
Donation
Mesuriadau
Deunydd
oak
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.