Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pedwar bachgen mewn rhes, Rhondda, 1957
Gwelwn ddireidi pedwar bachgen ifanc yn y ffotograff hwn gan Philip Jones Griffiths. Yn rhan o Bortffolio Cymru gan Griffiths, mae’n dangos cymeriad, plwc a phowldrwydd plant Cymoedd y Rhondda. Ym 1997, pan arddangoswyd y ffotograff yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gwnaed galwad gan bapurau newydd y Western Mail a’r South Wales Echo i ddod o hyd i’r pedwar ffrind ifanc. Cafodd y brodyr Ieuan a John Rees, ynghyd â’u ffrindiau Alan Jones a William George (chwith i dde) eu hadnabod gan chwaer y brodyr, Irene, ond nid yw’r un ohonyn nhw’n cofio’r ffotograff yn cael ei dynnu! Mewn cyfweliad gyda’r Western Mail, dywedodd Alan Jones “Dwi ddim yn gallu ei gofio o gwbl ond roedden ni’n eithaf drygionus yn y dyddiau hynny ac mae’r ffotograff hwn yn crynhoi hwnnw i’r dim. Pan edrychwch chi arnon ni’n agos dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi newid llawer o gwbl.”.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.