Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Marshall Gainsborough oil engine
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif dim ond yn y trefi mawr yn unig y ceid trydan. Roedd gofyn i dai neu ffermydd mewn mannau eraill a garai gael trydan brynu generadur eu hunain. Gwnaed hyn yng Ngregynog, gerllaw'r Drenewydd, ym Mhowys. Dyma gartref David Davies a'i deulu, y gŵr a ddaeth i enwogrwydd am iddo sefydlu'r Ocean Coal Company. Ef hefyd a fu'n gyfrifol am adeiladu'r rheilffordd a'r dociau yn Y Barri.
Injan olew fertigol Marshall (10"x13") oedd yn gyrru eu generadur cerrynt union hwy. Ni cheid motor cychwyn fel y rhai a welir ar bob car heddiw ar y generadur arbennig hwn a byddai gofyn i'r sawl oedd yn ei weithio droi'r injan a llaw i'r safle cychwyn cywir trwy osod lifer yn y rhiciau yn y chwylolwyn. Er gwaethaf maint enfawr yr injan a'r generadur ni allent gynhyrchu ond digon o drydan i oleuo mwy nag ychydig o lampau trydan am eu bod yn defnyddio llawer mwy o ynni na lampau ffilament neu fflwrolau. Gellid rhedeg yr injan fel un ddiesel heb orfod ei thanio.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984