Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Eisteddfod chair
Yr oedd Cadair Eisteddfod Wrecsam 1933 yn debyg iawn i gadair Abertawe 1926 sef cadair Tseineaidd. Ar wahan i leoliad, dyddiad ac arwyddair yr Orsedd, mae'r holl arysgrifen a'r gwaith cerfiedig yn Tseineaidd. Comisiynwyd cadair Wrecsam gan J R Jones Hong Kong ar ran Cymdeithas Gymraeg Shanghai. Brodor o Lanuwchllyn oedd J. R. Jones a fudodd i weithio yn Tseina gan gadw ei ddiddordebau yn niwylliant Cymru drwy eisteddfod. Mae'r gadair wedi ei gwneud o rosbren India a saerniwyd gan bedward dyn am dros gyfnod o flwyddyn. Daeth y crefftwyr hyn o amddifaty Catholig T'ou-se-we ar gyrion Shanghai lle dysgwyd crefftau llaw fel cerfio gwaith coed. Cludwyd y gadairo Shanghai i Wrecsam ar long mewn crat bren. Yr enillydd ar ddiwrnod y cadeirio oedd Trefin (Edgar Phillips).