Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Prynhawn yn Sir Gaerfyrddin
Paentiad o gelli fechan yn Sir Gâr, wedi'i hamgylchynu a'i chysgodi gan goed. Mae dafnau o olau yn diferu drwy'r dail, gan oleuo'r borfa a'r blodau gwyllt ar lawr y goedwig. Mae'r goeden dalsyth, fwyaf, yn y blaendir ar y chwith, wedi'i gorchuddio â mwsog gwyrdd meddal.
Magwyd William Wilkins yn ne Cymru, ac roedd ganddo stiwdio yn Sir Gâr. Mae'n defnyddio techneg baentio pwyntilio, sef paentio gyda dotiau mân o liw. Gallwn ni weld y dechneg yn well o edrych yn agos.