Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Het Goch
Mae Bill Woodrow yn adnabyddus am ailgylchu nwyddau domestig sydd wedi'u taflu a'u troi'n gerfluniau newydd. Ar ddechrau’r wythdegau, datblygodd ei enw da ar gyfres o gerfluniau ‘torri allan’, gan drin a thrawsnewid arwyneb metel teclyn cartref yn wrthrych cyfarwydd arall heb ei ddatgysylltu oddi wrth y teclyn gwreiddiol. Yn Yr Het Goch, mae Woodrow wedi gwneud hynny – tynnu ffurf ffidil a bwa o hen beiriant sychu metel.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.