Gynnau Mawr i'r Ffrynt
WELCH, Lucy Elizabeth Kemp (Lucy Kemp Welch was born in Bournemouth and made a reputation as a horse painter. Lucy studied under Herkomer at Bushey. She was eager to pursue a role as a war artist during the First World War but encountered much rejection due to the fact that she was female. An early poster she produced for the Parliamentary Recruiting Committee did however become very popular. Her best known painting was Forward the Guns which she painted in situ on Salisbury Plain using a large box to protect the canvas. It was exhibited at the Royal Academy in 1917. The success of that picture encouraged her to embark on Big Guns to the Front. This received great acclaim when she exhibited it at the 1918 Royal Academy. In 1921, Big Guns to the Front, was sold to the National Museum of Wales for £840 from the War Pictures Fund.
Ganwyd Lucy Kemp Welch yn Bournemouth a gwnaeth enw iddi ei hun fel peintiwr ceffylau. Astudiodd Lucy dan Herkomer yn Bushey. Roedd yn awyddus i sefydlu ei hun fel arlunydd rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu raid iddi wynebu llawer o wrthwynebiad oherwydd ei rhyw. Fe ddaeth poster cynnar o'i gwaith a gynhyrchodd i Bwyllgor Recriwtio'r Senedd yn boblogaidd iawn fodd bynnag. Ei pheintiad mwyaf enwog oedd 'I'r Blaen â'r Gynnau'. Peintiodd hwn ar y safle ar Wastadedd Caersallog gan ddefnyddio bocs mawr i warchod y cynfas. Fe'i rhoddwyd ar ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1917. Bu llwyddiant y llun hwnnw yn fodd i'w hannog i gychwyn ar 'Drylliau Mawr i'r Ffrynt'. Derbyniodd 'Drylliau Mawr i'r Ffrynt' glod mawr pan arddangoswyd ef yn Academi Frenhinol 1918. Ym 1921, gwerthwyd 'Gynnau Mawr i'r Ffrynt' i Amgueddfa Genedlaethol Cymru am £840 o'r Gronfa Darluniau Rhyfel.)
Ganwyd Lucy Kemp Welch yn Bournemouth a gwnaeth enw iddi ei hun fel peintiwr ceffylau. Astudiodd Lucy dan Herkomer yn Bushey. Roedd yn awyddus i sefydlu ei hun fel arlunydd rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu raid iddi wynebu llawer o wrthwynebiad oherwydd ei rhyw. Fe ddaeth poster cynnar o'i gwaith a gynhyrchodd i Bwyllgor Recriwtio'r Senedd yn boblogaidd iawn fodd bynnag. Er bod y cafalri yn araf ddiflannu, roedd ceffylau yn dal i fod yn bwysig o ran symud gynau a chyflenwadau a chynnal y cyfathrebu o dan yr amgylchiadau gwaethaf. Ei pheintiad mwyaf enwog oedd I'r Blaen â'r Gynnau.. Peintiodd hwn ar y safle ar Wastadedd Caersallog gan ddefnyddio bocs mawr i warchod y cynfas. Fe'i rhoddwyd ar ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1917. Bu llwyddiant y llun hwnnw yn fodd i'w hannog i gychwyn ar y cynfas mawr hwn. Bu'n gwylio'r Artileri Brenhinol yn hyfforddi yng Ngwersyll Morn, Magdon Hill a'r Punchbowl ger Caer-wynt a phenderfynodd osod yr olygfa yn yr eira. Derbyniodd Drylliau Mawr i'r Ffrynt glod mawr pan arddangoswyd ef yn Academi Frenhinol 1918. Ym 1921, gwerthwyd Gynnau Mawr i'r Ffrynt i Amgueddfa Genedlaethol Cymru am £840 o'r Gronfa Darluniau Rhyfel. Roedd yn rhaid ei storio oherwydd bod yr adeilad heb ei orffen. Fe'i harddangoswyd o 1927 hyd yr Ail Ryfel Byd ac ym 1959 fe'i rhoddwyd ar fenthyciad tymor hir i Glwb Caerdydd a'r Sir. Mae wedi dychwelyd yn 2000 ac wedi gwaith cadwraeth mae'n crogi eto yn y brif neuadd.
Creu/Cynhyrchu
WELCH, Lucy Elizabeth Kemp
Dyddiad: 1918
Derbyniad
Purchase, 3/9/1921
Mesuriadau
Techneg
oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting
Lleoliad
East staircase
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.