Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The White Ox of Nannau
Ar 25 Mehefin 1824 cynhaliwyd gwledd i ddathlu pen-blwydd Robert Williames Vaughan, mab prif dirfeddiannwr Meirionnydd yn un ar hugain oed, ar stad Nannau, Dolgellau. Roedd y dathliadau gyda'r mwyaf crand a welwyd yng Nghymru, ac eisteddodd 200 o westeion i fwynhau gwledd oedd yn cynnwys golwyth anferth o gig yr ych gwyn o Nannau.
Coffawyd yr ych gwyn mewn peintiad gan Daniel Clowes o Gaer, a gwnaed canhwyllbren o'r cyrn a'r carnau. Hefyd trefnodd Syr Robert bod chwe chwpan llwncdestun yn cael eu creu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Fe'u gwnaed o bren Derwen Ceubren yr Ellyll, coeden hynafol o Nannau sydd â chysylltiad ag Owain Glyndwr. Fe'u trysorwyd gan y Fychaniaid ac maent bellach yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 29363
Derbyniad
Purchase, 9/12/2008
Mesuriadau
h(cm) frame:78.0
h(cm)
w(cm) frame:104.0
w(cm)
d(cm) frame:9.0
d(cm)
h(cm) image size:60.0
h(cm)
w(cm) image size:85.0
w(cm)
Techneg
oil on panel
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
oil
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.