Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Castell Dinas Bran, ger Llangollen
Mae'r llun hwn yn cynnwys golygfa o Gastell Dians Brân, ger Llangollen yn Sir Ddinbych. Mae'n perthyn yn agos i olygfa o'r castell hwn a beintiwyd ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn, llun a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1771. Mae Castell Dinas Brân yn agos at Afon Ddyfrdwy ond fe'i hamgylchynnir gan fryniau yn hytrach na thiroedd gwastad arfordirol, fel y gwelir yn y darlun hwn. Mae archwiliad pelydr-X yn awgrymu mai fel golygfa o Tivoli y cychwynnodd y darlun hwn, ac iddo gael ei roi o'r neilltu a'i orffen yn ddiweddarach, ar ôl 1771, gan ddefnyddio astudiaeth o Gastell Dinas Brân.