Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Roma Taylor
Ganed Roma Taylor ar ynys Antigwa yn y Caribî ym mis Rhagfyr 1943. Mae ganddi atgofion melys o’i phlentyndod yn Antigwa.
“Roeddwn i’n byw ar y traeth pan roeddwn i’n tyfu i fyny yn Antigwa, felly roeddwn i yn y dŵr bob bore cyn mynd i’r ysgol, fe fyddai fy nain yn dweud y drefn wrthyf o hyd... roedd hi’n dweud ‘mi fydd gen ti heli yn dy wallt’.”
“Pan roeddwn i’n 15 oed, ysgrifennodd fy mam at fy nhad yn gofyn iddo fy anfon i draw i Brydain...”
Erbyn y 50au hwyr, ym mis Hydref, cyrhaeddodd Roma yn Llundain yn 15 mlwydd oed i fyw gyda’i mam a’i brawd yng Nghaerdydd.
“Roeddwn i’n gofyn iddi’n ddi-baid ‘Oes gennych chi goed? Oes gennych chi draeth? ... Traethau fel ein rhai ni?’ ac atebodd hi ‘na, nid fel ein rhai ni’, dydyn nhw ddim cystal â’n rhai ni, ond maen nhw yn braf’.”
“Pan roeddwn i’n blentyn, roeddwn i eisiau priodi a chael llawer o blant, ac roeddwn i am fod yn nyrs, ac felly buodd hi. Mi fues i’n nyrs, fe wnes i briodi, ac fe ges i saith o blant, felly fe wnes i wireddu’r freuddwyd honno.”
“Roedd i yn y fyddin am 25 mlynedd, gan ddechrau’n syth ar ôl imi gael yr efeilliaid. Fe wnes i fwynhau bywyd yn y Fyddin, roedd o’n wych, roedd o’n diriogaethol, ond yn wych... mae’n rhaid mai 26 oed oeddwn i pan ymunais i.”
“Rwy’n teimlo fel Cymraes, drwy’r adeg. Mae dinas fach Gaerdydd wedi gwneud cymaint imi, ac rwy’n diolch i Dduw, gan fy mod i wedi mwynhau fy mywyd yng Nghymru. Mae bywyd i fyny ac i lawr am yn ail, ond Cymru, rwy’n caru Caerdydd... s’mo fi erioed wedi bod eisiau byw yn unman arall.”
“Pwy bynnag fydd yn gweld y stori hon, mae’n dda i’n plant, ein hwyrion, ein gor-wyrion...”