Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Catrin Finch
Mae Catrin Finch, sy’n enedigol o Geredigion, yn cael ei hystyried fel telynores glasurol fwyaf dawnus ei chenhedlaeth. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, ac mae ei cherddoriaeth yn gwthio ffiniau clasurol, gan gydweithio’n aml gyda cherddorion ar draws genres a chyfandiroedd. Mae’r portread yma, a dynnwyd yn 2006 yn Nhŷ Tredegar, yn dangos Catrin saith mis yn feichiog gyda’i merch, Ana Gwen. Mae’r ffotograffydd Edith Maybin yn archwilio’r berthynas rhwng mam a merch yn ei gwaith yn rheolaidd, gan gyfleu yma bŵer a harddwch corff newidiol Catrin. Yn fwy diweddar yn 2018, wrth gael triniaeth ar gyfer canser y fron, parhaodd Finch i deithio gyda’i cherddoriaeth, gan ei chydnabod fel ffynhonnell ffocws a chryfder.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 28754
Creu/Cynhyrchu
MAYBIN, Edith
Dyddiad: 2006
Mesuriadau
Lleoliad
In store
Categorïau
Ffotograff | Photograph Gweithiau ar bapur | Works on paper Celf Gain | Fine Art 04_CADP_Jul_21 Cerddor | Musician Rhywun enwog | Celebrity Beichiogrwydd | Pregnancy Gŵn, Ffrog | Gown CADP random Portread | Portrait CADP content Artist Benywaidd | Woman Artist Artistiaid y 21ain ganrif | Active in the 21st CenturyNid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.