Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Kennixton
Ffermdy carreg mawr wedi'i adeiladu mewn tair rhan. Codwyd y rhan gyntaf tua 1610 fel tŷ â'r drws yn y talcen. Roedd yna un ystafell ar y llawr isaf ac ystafell wely uchod. Tua 1680, ychwanegwyd cegin fawr a dyma oedd y brif ystafell fyw wedyn. Gosodwyd dau ddrws allanol newydd a grisiau pren yn arwain at le eang i gysgu i fyny'r grisiau. Yn olaf, tua 1750, ychwanegwyd cegin gefn ar ongl sgwâr i'r adeilad. Roedd ystafell uwchben hon hefyd ac mae'n debyg mai storfa oedd honno.
Roedd gwely bocs, neu wely wensgot, ger y tân yn un o nodweddion arbennig tai Penrhyn Gŵyr, fel yr oedd y lle i drin cig â mwg uwchben y lle tân, a'r gwely platfform yn yr ystafell uwchlaw. Mae'r gwely gortho cerfiedig wedi'i addurno â chroglenni a wnaed o gopïau union o ddefnydd dornix a liwiwyd â lliw llysiau yn yr ail ganrif ar bymtheg. O Forgannwg y daw llawer o'r dodrefn, yn cynnwys y dresel yn y gegin a'r dodrefn yn y parlwr sy'n perthyn, gan fwyaf, i'r 18fed ganrif.
Y gred oedd bod lliw coch y waliau'n amddiffyn y tŷ rhag ysbrydion drwg. Dyna hefyd fyddai diben aeron y griafolen yn yr ardd a'r ffigurau cerfiedig y tu mewn i'r drws ffrynt. Symudwyd y tŷ i'r Amgueddfa ym 1952 ond ni chynigiwyd adeiladau eraill y fferm ar y pryd. Serch hynny, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd yr ysgubor a'r sied lloi hefyd fel y gallent gymryd eu lle priodol gyda'r ffermdy.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.