Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Ddol Japaneaidd
JOHN, Gwen (Bu Gwen John yn mynychu Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade yn Llundain rhwng 1895 a 1898, a bu'n astudio am gyfnod byr ym Mharis. Ym 1903, aeth gyda Dorelia McNeill ar daith gerdded trwy Ffrainc. Erbyn dechrau 1904, roedd wedi ymsefydlu ym Mharis. | Gwen John attended the Slade School of Fine Art in London between 1895 and 1898, and studied briefly in Paris. In 1903, she accompanied Dorelia McNeill on a walking tour through France. By the beginning of 1904, she had settled in Paris.)
Stiwdio'r artist ym Meudon yn Ffrainc yw cefndir y darlun bywyd llonydd hwn. Mae llawer o'r gwrthrychau yn y llun yn bropiau stiwdio cyfarwydd sy'n ymddangos yn aml yn ei gwaith, fel y bwrdd crwn, y blwch hirsgwâr a'r lliain sgwariog. Ond dim ond yn y gwaith hwn, ac mewn ail fersiwn ohono, y mae'r ddol Japaneaidd yn ymddangos, ac mae'n rhoi fflach o liw i waith a fyddai fel arall yn astudiaeth o raddliwiau. Aeth i feddiant Julia Quinn Anderson, chwaer noddwr Gwen John, tua 1930. Mae'n debyg mai at y gwaith hwn roedd hi'n cyfeirio pan ysgrifennodd mewn llythyr at Gwen ym mis Gorffennaf 1928, 'I am sorry that the painting of the doll was not finished'.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 25990
Creu/Cynhyrchu
JOHN, Gwen
Dyddiad: 20th century - (first half)
Derbyniad
Purchase - ass. of NACF, DW, 8/2003
Purchased with support from The Derek Williams Trust and The National Art Collections Fund
Mesuriadau
Uchder
(cm): 33
Lled
(cm): 40.6
h(cm) frame:42.7
h(cm)
w(cm) frame:50.5
w(cm)
d(cm) frame:6.5
d(cm)
Techneg
oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
oil
canvas
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.