Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Ddol Japaneaidd
Stiwdio'r artist ym Meudon yn Ffrainc yw cefndir y darlun bywyd llonydd hwn. Mae llawer o'r gwrthrychau yn y llun yn bropiau stiwdio cyfarwydd sy'n ymddangos yn aml yn ei gwaith, fel y bwrdd crwn, y blwch hirsgwâr a'r lliain sgwariog. Ond dim ond yn y gwaith hwn, ac mewn ail fersiwn ohono, y mae'r ddol Japaneaidd yn ymddangos, ac mae'n rhoi fflach o liw i waith a fyddai fel arall yn astudiaeth o raddliwiau. Aeth i feddiant Julia Quinn Anderson, chwaer noddwr Gwen John, tua 1930. Mae'n debyg mai at y gwaith hwn roedd hi'n cyfeirio pan ysgrifennodd mewn llythyr at Gwen ym mis Gorffennaf 1928, 'I am sorry that the painting of the doll was not finished'.