Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Diwedd yr Onnen, Ffynnonofi, Sir Benfro, 2020
Mae Diwedd Onnen yn dangos yr afiechyd sy’n lladd coed ynn, epidemig a allai arwain at farwolaeth hyd at 95% o goed ynn y DU. Mae'r drasiedi hon sy'n difetha cefn gwlad yn digwydd yng nghysgod y pandemig COVID-19 byd-eang, felly mae'n digwydd bron heb i neb sylwi. Drwy ddangos cwymp rhywogaeth sy'n wynebu difodiant ar raddfa eang mae gwaith Mike Perry yn tynnu sylw at y bygythiad ecolegol sylweddol sy'n wynebu rhywogaethau coed Prydain, sydd yn waith dogfennu pwysig ei hun. Mae'r gwaith yn cysylltu â nifer o weithiau celf gwahanol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru gan gynnwys Ash Dome gan David Nash, sy'n marw o'r clefyd.
Mae'r ffotograff pruddglwyfus hwn yng ngolau'r lleuad yn darlunio canghennau'r coed ynn oedd yn marw o gwmpas stiwdio'r artist yng ngogledd Sir Benfro. Haint sydd efallai wedi mynd yn angof yn ystod pandemig Covid-19 yw clefyd coed ynn. Mae'r clefyd ffyngaidd hwn, y credir ei fod wedi ei gyflwyno drwy fasnach coed ifanc, yn ein hatgoffa o'r angen i warchod ein cynefinoedd a'n ecosystemau.