Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Grid Potel, 2012
Daw Grid Potel o'r gyfres Môr Plastig sy'n astudiaeth ffotograffig fforensig o wrthrychau plastig sydd wedi golchi i’r lan ar arfordir gorllewinol Cymru, ac yn fwy diweddar, ymhellach i ffwrdd. Mae Mike Perry yn ffotograffio’r gwrthrychau yn unigol, yn syth ymlaen i’r camera gyda golau gwastad, niwtral, gan ddal effaith prosesau naturiol ar arwynebau deunyddiau a gynhyrchir yn ddiwydiannol. Yn y delweddau hyn daw'r gwrthrychau yn symbolau teimladwy o ddryswch y berthynas – yn llythrennol ac yn drosiadol – rhwng defnydd dynol, gwastraff a natur. Mae Grid Poteli yn adleisio gwaith Bernd a Hilla Becher ac artistiaid eraill y mae eu dull minimalaidd yn canolbwyntio ar ffurf cerfluniol a gwead, sy'n galluogi'r gwyliwr i ystyried y gwrthrych yn llawn a'r hyn y mae'n ei gynrychioli.