Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Post Office
Maen nhw'n dweud mai'r adeilad brics bychan hwn, â dwy ystafell, a godwyd ym 1936, yw'r swyddfa bost leiaf sy'n sefyll ar ei phen ei hunan yng Nghymru. Fe'i codwyd gan Evan Isaac, saer maen lleol, a'i gefnder David Williams a oedd yn saer coed. Merch Mr Isaac a'i gŵr oedd yn cadw'r post a thafarn y pentref dros yr heol.
Byddai'r post yn dod o Hendy-gwyn ar Daf, y dref agosaf, ac yn cael ei ddidoli yma gan Mrs Beatrice Griffiths. Yna, byddai hi'n mynd ar gefn ei beic i'w ddosbarthu i ffermydd a bythynnod y cylch, sef taith o wyth milltir bob dydd. Roedd cownter y swyddfa bost yn y brif ystafell a gweithdy i atgyweirio setiau weiarles yn yr ail ystafell (lle'r oedd lle tân). Symudwyd y busnes i fyngalo gerllaw ym 1963 a daeth yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1992. Mae wedi'i ailosod i edrych fel y byddai yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.