Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Self Portrait
Y ddelwedd ffraeth, swrrealaidd hon yw’r cynharaf o’r hunanbortreadau niferus a grëwyd gan Angus McBean i’w hanfon fel cardiau Nadolig, bron yn flynyddol, am dros hanner canrif. Ganed McBean yn Nhrecelyn, Gwent. Bu’n gweithio fel gwneuthurwr masgiau theatrig a dylunydd setiau cyn troi at ffotograffiaeth. Llwyddodd dull hudolus a dyfeisgar McBean o lunio portreadau i’w wneud yn boblogaidd gyda’r enwogion niferus a fu’n eistedd iddo. Ym 1942, cafodd McBean ei arestio am fod yn hoyw, oedd yn dal i fod yn anghyfreithlon ar y pryd, a’i ddedfrydu i lafur caled. Ar ôl cael ei ryddhau ym 1944, ailgydiodd yn ei yrfa yn y pen draw a chafodd lwyddiant mawr. Mae ei bortreadau o Audrey Hepburn a’r Beatles, ymhlith eraill, bellach yn ddelweddau eiconig.