Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Atebion yn y Gymraeg gan J. Bodfan Anwyl o Lŷn, ar bynciau yn ymwneud â'r cartref a'r aelwyd, i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ddiwylliant gwerin Cymru ym 1937. Roedd J. Bodfan Anwyl yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn eiriadurwr ac yn awdur.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr Amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru ym 1948.