Holiadur | questionnaire
Anwyl, John Bodfan (Born 27 June 1875 in Chester, son of John Anwyl, lay preacher, of the Anwyl family of Caerwys, Flints., and his wife Ellen (née Williams), whose family came from Llangwnnadl, Caerns. He entered the ministry and became minister of Elim (Congl.), Carmarthen in 1899. Owing to deafness he relinquished his church to take charge of the Deaf and Dumb Institute at Pontypridd, 1904-19. In 1914 he was responsible for the sixth edition of Spurrell 's Welsh-English Dictionary; later, 1916, he edited the seventh edition of Spurrell's English-Welsh Dictionary. Both ran to several further editions. He was appointed (1921) secretary of the projected Welsh dictionary sponsored by the Board of Celtic Studies of the University of Wales. On retiring from the post, he settled in Llangwnnadl, Caerns., where he died by drowning, 23 July 1949; he was buried in Penllech, Caerns. churchyard.
A younger brother of Sir Edward Anwyl, he contributed extensively to the Welsh press. He edited reprints of Drych y prif oesoedd and Gweledigaethau y Bardd Cwsc, was author of Y pulpud bach (1924), Yr arian mawr (1934), Fy hanes i fy hunan (1933), and Englynion (1933), and prepared translations (into Welsh) of books published by the London Missionary Society.
Source: Dictionary of Welsh Biography (National Library of Wales)
Ganwyd 27 Meh. 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, sir Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell; yn ddiweddarach, yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o'r rhain. Fe'i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o'r swydd hon, ymsefydlodd yn Llangwnadl, sir Gaernarfon, lle y bu f., trwy foddi, 23 Gorff. 1949; fe'i claddwyd ym mynwent Penllech, Caern..
Yr oedd ‘Bodfan’ yn frawd i Syr EDWARD ANWYL . Fe gyfrannodd lawer iawn i newyddiaduron a chylchgronau Cymru. Golygodd adargraffiadau o Drych y Prif Oesoedd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc. Ymhellach, ef oedd awdur Y Pulpud Bach (1924), Yr Arian Mawr (1934), Fy Hanes I Fy Hunan (1933), ac Englynion (1933), heblaw cyfieithiadau i Gymraeg o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain, megis Greatheart of Papua W. P. Nairne, 1915.
Awdur: Athro-Emeritus Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth
Ffynhonell: Y Bywgraffiadur Cymreig (Llyfrgell Genedlaethol Cymru))
Atebion yn y Gymraeg gan J. Bodfan Anwyl o Lŷn, ar bynciau yn ymwneud â'r cartref a'r aelwyd, i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ddiwylliant gwerin Cymru ym 1937. Roedd J. Bodfan Anwyl yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn eiriadurwr ac yn awdur.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937
Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr Amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru ym 1948.
Creu/Cynhyrchu
Dyddiad: 1937
Derbyniad
Collected Officially
Mesuriadau
Deunydd
papur
cerdyn
metel