Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Athro T. Gwynn Jones
Roedd T. Gwynn Jones (1871-1949) yn lenor ac ysgolhaig aruthrol o gynhyrchiol a dylanwadol ym myd llenyddiaeth Gymraeg: roedd yn fardd, newyddiadurwr, nofelydd, ysgrifydd, beirniad llenyddol, cofiannydd, a chyfieithydd toreithiog. Yn ystod ei yrfa, cyhoeddodd gannoedd, os nad miloedd o weithiau gwahanol, ond am ei waith barddonol y mae’n cael ei gofio’n bennaf. Mae ei awdl gadeiriol ‘Ymadawiad Arthur’ (1902) yn garreg filltir yn hanes barddoniaeth Gymraeg, a’i gyfrol Detholiad o Ganiadau (1926) yn cael ei hystyried ymysg cyfrolau barddoniaeth Gymraeg pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Bu hefyd yn flaengar mewn arbrofion gyda ffurfiau barddonol gan ddatblygu’r vers libre gynganeddol, sydd i’w weld yn ei gyfrol olaf, Y Dwymyn (1944).
Ysgrifennwyd y disgrifiad hwn gan Dr Elen Ifan, Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.