Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Linford Isaacs (Fred)
“Rwy’n gwybod nad ydyn nhw’n fy nerbyn i fel Prydeiniwr ond fe ddois i fel Prydeiniwr, rwy’n gweithio fel Prydeiniwr, rwy’n byw gydol fy oes fel Prydeiniwr. “
O John’s Town, Jamaica mae Linford Isaacs yn hanu. Pan roedd e’n fachgen, roedd ganddo uchelgais i fod yn fecanig.
“Pan oeddwn i’n 10 oed, fe wnes i adael i fynd i Kingston i aros gyda fy hen ewythr dall, i’w helpu... Roeddwn i’n gwneud esgidiau yn Jamaica o tua 15 mlwydd oed nes oeddwn i’n 22, yna fe wnes i adael a dod yma... Mae popeth sydd i’w gael yn Jamaica wedi’i wneud yn Lloegr, Bryste, ceir wedi’u gwneud yma, unrhyw beth.”
“Doedd dim paratoi ar ein cyfer ni. Mae’n rhaid ichi brynu’r ddinasyddiaeth... rydych chi’n cael eich pasbort Prydeinig... yna, mwyaf sydyn... caiff hwnnw ei dynnu oddi arnoch chi. Y ffeiliau sydd ganddyn nhw amdanoch chi, maen nhw’n cerdded i ffwrdd. Sut allech chi drin pobl fel hyn?”
“Roeddwn i’n rhentu gwely, roedd yna bedwar gwely yn yr [un] ystafell ac roeddwn i’n talu £1 am fy ngwely ac roedd gweddill y dynion yn talu £1 am eu gwelyau nhw hefyd.”
“Roeddwn i’n rhentu gwely, roedd yna bedwar gwely yn yr [un] ystafell ac roeddwn i’n talu £1 am fy ngwely ac roedd gweddill y dynion yn talu £1 am eu gwelyau nhw hefyd.”
“Pan ddois i yma i weithio ar y rheilffordd ar yr hen injan stêm, y blwch tân oedden nhw’n ei alw... doedden nhw ddim hyd yn oed yn rhoi hances fach ichi i glymu dros eich wyneb, ac roedd hi’n fudr ac yn boeth iawn yno. Felly dyna wnes i am flynyddoedd...”
“Dydw i’n difaru dim, fe ddois i yma a chael dau o blant a phedwar o wyrion a thri o or-wyrion. Ddois i yma gyda dim ond bag teithio ac un cês bach...”
“Rwy’n breuddwydio am fy nghartref, allaf i ddim peidio breuddwydio am fy nghartref... mae’r breuddwydion hynny’n fy nghludo i’n ôl yno, ac rwy’n cofio... Roedd fy mam yn cau ei llygaid ac yn torri’r bara, doedden ni byth yn llwglyd... mae bendith arnom ni.”
“Hyrwyddwch eich lles eich hunain. Unrhyw beth rydych chi am ei wneud, gwnewch eich gorau glas.”