Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Ena Radway
“Dyw pethau ddim yn aros yr un fath… fe wnaeth dynolryw wneud llanast ohoni, a throi pethau mor anghyfeillgar.”
Ganed Ena Radway yn Jamaica, ac anfonodd ei gŵr amdani yn 1962.
“Fe ddois i’r Deyrnas Unedig ddiwedd Mawrth 1962; roeddwn i’n 25 mlwydd oed."
"Roeddwn i’n briod a fy ngŵr ddaeth gyntaf, tua naw mis ynghynt. Teithiwr oedd e erioed, fy ngŵr, ac fe anfonodd amdanaf i. Fel y gwyddoch, gwahoddodd y Frenhines ni i ddod i’r wlad hon... os gallech chi fforddio talu am eich tocyn llong."
"Roedden ni’n ddeiliaid Prydeinig bryd hynny, cyn i Jamaica gael annibyniaeth. Dechreuodd pethau ddatod, ac yna dechreuodd y problemau."
"Fy swydd gyntaf mewn ysbyty oedd yng Nglanelái, Tyllgoed, Caerdydd... [fe wnes i] chwe blynedd o shifftiau nos pan roedd fy mhlant yn ifanc."
"Roeddwn i eisiau gweithio yn y Gwent... felly yn 1972, fe ges i ffurflen ac fe es i am gyfweliad a chael y swydd. Fe wnes i weithio 18 mlynedd ar shifftiau nos nes roedd fy mhlant ieuengaf yn gallu bod ar eu pennau eu hunain. Swydd yn ystod y dydd oedd gan fy ngŵr. Yna fe ddechreuais i weithio’r shifft ddydd."
"Doeddwn i ddim yn meddwl [y buaswn i] yn y wlad hon wedi ymddeol, oherwydd roedd pawb yn dod yma ac yn dweud eu bod am aros am bum mlynedd a mynd yn ôl."
"Doedd gan fy rhieni ddim llawer, ond roedden nhw wedi rhoi popeth y gallent ei fforddio i ni... roedden ni’n gobeithio, wrth ddod yma, y bydden ni’n gallu eu helpu nhw."
"Fy nerth i ddal ati yw Duw. Rwy’n gwneud beth bynnag sydd o fewn fy ngallu i helpu. Wn i ddim beth sy’n fy nisgwyl yn y dyfodol, ond am y tro, rwy’n teimlo fy mod wedi setlo.”