Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dress
Gwisgwyd y wisg yma o bosibl gan y Foneddiges Rachel Morgan o Dŷ Tredegar tua 1724. Roedd y teulu Morgan ymhlith tirfeddianwyr mwyaf pwerus Cymru. Nhw oedd perchnogion Tŷ Tredegar ger Casnewydd. Fe briododd y teulu’n dda er mwyn cynyddu eu cyfoeth a’u dylanwad.
Merch Dug Dyfnaint oedd y Foneddiges Rachel Morgan. Daeth i Gymru gyda gwaddol o £20,000 – gwerth tua £2 filiwn heddiw. Yn y 1790au, buddsoddodd ei disgynyddion ym myd diwydiant. Agorwyd pyllau glo a gweithfeydd haearn ar eu tiroedd, ac adeiladwyd camlesi a thramffyrdd.