Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Castell Caernarfon
Mae mam a'i phlant yn chwarae o flaen adfeilion Castell Caernarfon, symbol o orthrwm Lloegr; Codwyd Castell Caernarfon, man geni Tywysog cyntaf Cymru, gan Edward I. Peintiodd Wilson lawer golygfa yn y lle sy'n amrywio o ran cywirdeb topograffyddol. Tref porthladd brysur oedd Caernarfon yn y cyfnod hwn, ond mae Wilson wedi gweddnewid y dirwedd i greu darlun o gytgord delfrydol.
Mae'r darlun yn tywynnu â golau Eidalaidd ysgafn sy'n annodweddiadol o Gymru. Yn aml peintiai Wilson ei dirwedd frodorol a'i feddwl yn llawn atgofion o'r Eidal, wedi'i ysbrydoli gan waith artistiaid Ewropeaidd fel Claude a Cuyp. Mae'r golau aur yn debyg i olau campagna Rhufain. Fel ei olygfeydd o olion Rhufeinig hynafol, y thema yw breuder campau dyn.
Mae golygfeydd Cymreig Wilson ymysg ei weithiau pwysicaf. Un tro fe honodd ei feistr, Thomas Wright, bod Wilson yn "hoff o'i famwlad". Mae rhai wedi honni mai balchder cenedlaethol a'i ysbrydolodd i beintio ei famwlad, tra bod eraill yn dadlau fod Cymru'n destun oedd yn addas o ran ei ddyheadau fel peintiwr tirluniau.