Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Yvonne Jardine
“Peidiwch â gweld pob cysgod fel mynydd... Defnyddiwch addysg cymaint ag y gallwch.”
Ganed Yvonne Jardine yn Antigwa ym mis Mai 1946.
“Roeddwn i’n un o saith o blant... fi yw’r ieuengaf. Yr hyn rwy’n ei gofio am Antigwa wrth dyfu i fyny oedd ei bod yn boeth, yn bwrw glaw, rhedeg o gwmpas y lle, mynd i’r ysgol, fy mrodyr a chwiorydd...”
“Roedden ni’n byw gyda’n gilydd, roedd ein hewythr yn gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn ar y cyfan... bu farw fy nhad pan roeddwn i’n dri a bu farw fy mam pan roeddwn i’n naw. Felly pan benderfynodd fy mrodyr a chwiorydd hŷn eu bod am ddod i Loegr, doedd yna ddim cwestiwn... fe wnaethon nhw anfon amdanom ni.”
“Fe ddois i drosodd ar basbort Prydeinig [ei chwaer] gan fod Antigwa yn dal i fod yn un o drefedigaethau Prydain. Fe ddois i drosodd yn 1958... roeddwn i’n 11–12...”
“Yn Tottenham roedden ni’n byw i ddechrau. Nawr rwy’n edrych o f’amgylch ac mae cymaint o wynebau Duon, ond bryd hynny roedd yn beth prin. Doedd dim plant Duon yn yr ysgol.”
“Roeddwn i’n arfer meddwl fy mod eisiau bod yn nyrs a thrafaelio...”
“Fe wnes i briodi ac fe fuon ni’n byw yn Singapore am gyfnod. Fe ddaethon ni’n ôl i’r Deyrnas Unedig yn 1973, 1974 fe ges i swydd gyda’r DVLA. Roeddwn i’n gweithio i fferyllfa cyfanwerthu hefyd, [ac] fe fues i’n gweithio i swyddfa’r post. Un o’r cyfleoedd rwy’n difaru na wnes i fachu arnynt yw fy mod wedi cael sawl cynnig i fod yn ynad...”
“Yn y flwyddyn gyntaf imi fod yn lywodraethwr i’r ysgol dros y ffordd... pan rwy’n ffonio ac yn dweud, ‘y Cynghorydd Jardine sy’n siarad,’ mae’r agwedd yn hollol wahanol ac mae hynny’n mynd dan fy nghroen i’n bur aml...”
“Dywed pobl fod bod yn fenyw a bod yn Ddu yn fater dyrys hefyd... Felly mae yna bob amser ryw deimlad o ‘tybed ai dyna pam?’”
“Mae hiliaeth yn fyw ac yn iach, ond mae fel tlodi, s’mo fi’n credu y gallwch chi gael ei wared e... rwy’n meddwl mai cael ei sgubo o’r golwg mae e.”