Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hoof clippers
Tocwyr.
Roedd gof cefn gwlad yn treulio hanner ei amser yn pedoli ceffylau. Heb geffylau, doedd ffermwyr ddim yn gallu tynnu cart, aradr na cherbyd. Roedd pedoli’n hollbwysig felly, ac yn dipyn o grefft. Roedd y gof yn siapio pedol o un darn o haearn, yn seiliedig ar led carn y ceffyl. Wedi poethi’r haearn, roedd yn ei blygu i siâp V cyn ei forthwylio’n grwn. Yna, roedd yn sgwario’r sawdl ac yn creu clipiau a hoelion i ddal y bedol yn ei lle.