Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dawnswraig wedi Gwisgo, astudiaeth
Gwnaed y model ar gyfer y gwiath efydd hwn ym 1879-80 fel astudiaeth ar gyfer gwaith enwog Degas Y Ddawnswraig fach pedair ar bymtheg oed. Ei fodel oedd Marie Van Goethen (g. 1864), disgybl o Wlad Belg yn Opera Paris. Gwnaed y fersiwn gyflawn gyntaf o'r cerflun hwn o gwyr ac roedd arno ddillad go iawn. Yn Arddangosfa'r Argraffiadwyr ym 1881, cafodd ei ddisgrifio fel gwaith 'rhyfeddol ei adeiladwaith a'i realaeth'. Castiwyd yr astudiaeth efydd hon mewn cyfres o 22 ym 1919-21 a phrynwyd hi gan Gwendoline Davies ym 1923.