Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Grenada, Gaudix. Andalucia, Sbaen
Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Ro'n i'n gyrru yn Andalucia, Sbaen yn hydref 2005. Roeddwn i wedi dechrau arbrofi gyda gwahanol fformatau yn fy ngwaith ar y pryd, ac roeddwn i'n chwilio am rywbeth gwahanol a oedd eto i ddod. Safodd y ddynes yma yn y glaw yn disgwyl am rywbeth. Roedd popeth o'i chwmpas hi rywsut yn aros am rywbeth. Dw i'n araf iawn yn golygu ac yn dewis yr ychydig luniau sy’n mynd yn gyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf yn mynd o dan fy ngwely ac felly hefyd yr un yma. Fe wnes i ei dynnu allan nawr, oherwydd y fformat sgwâr. Roedd y cyfarfyddiad newydd fel deja-vu, neu atgof dymunol." - Nikos Economopoulos