Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Glaw - Auvers
"Yn mis Mai 1890, symudodd Van Gogh o Arles yn Provence i bentref Auvers-sur-Oise, i'r gogledd o Baris. Yno bu'n lletya yn y Café Ravoux yn cael triniaeth gan Dr Paul-Ferdinand Gachet. Rhwng 17 Mehefin a 27 Gorffennaf, peintiodd Van Gogh dri ar ddeg o gynfasau sgwâr o'r gerddi a'r caeau o gwmpas Auvers. Yn ei lythyr olaf, dywedodd ei fod 'wedi llwyr ymgolli yn yr ardal helaeth o gaeau gwenith yn erbyn y bryniau, mor ddiderfyn â'r môr, o liw melyn cain, lliw gwyrdd cain, fioled cain darn o bridd wedi ei droi a'i chwynnu.' Daw'r ffordd y mae'n trin glaw fel llinellau lletraws o'r toriad pren 'Pont yn y glaw 'gan yr arlunydd Siapaneaidd Hiroshige, arlunydd yr oedd wedi copïo ei waith ym 1887. Mae'r awyrgylch yn ein hatgoffa o un o hoff gerddi Van Gogh, 'The Rainy Day' gan Longfellow: 'My life is cold, and dark, and dreary; It rains, and the wind is never weary...Into each life some rain must fall, some days must be dark and dreary.'
Saethodd Van Gogh ei hun a bu farw ar 29 Gorffennaf 1890 yn fuan ar ôl peintio'r gwaith hwn. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1920."