Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pot, coffee
Ym 1756 aeth Dr Pococke, Esgob Meath ar ymweliad â Gweithdy japanwaith y teulu Allgood ym Mhont-y-pwl. Nododd eu bod yn cynhyrchu hambyrddau, canwyllbrennau a nifer o eitemau eraill, i gyd wedi'u haddurno yn null Japan. Cafodd Dr Pococke arddeall taw gyda deilen arian y cynhyrchwyd y darnau golau o'r addurn trilliw ffug hwn. Roeddent yn eu haddurno â thirluniau Tsieineaidd a ffigyrau mewn aur yn unig, ac nid yn defnyddio lliw fel yn Birmingham. Ym marn yr esgob, roedd y gwaith yn llawer gwell na gwaith Birmingham, ond hefyd yn llawer drytach - gan taw dim ond dau frawd a'u plant oedd yn cynhyrchu ac iddynt gadw'r gyfrinach. Byddent hefyd yn addurno blychau copr, neu unrhyw beth o gopr na allai gael ei wneud yn hwylus mewn haearn, yn null Japan.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.