Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr [1933] oddi wrth T.J. Jenkin (Aberystwyth) yn cynnwys manylion am "hen beiriant diddorol sef hen felin eithin ... Sylwaf na wyr awdur "Cwm Eithin" ond y nesaf peth i ddim am ba fath beth ydoedd y felin eithin. Gosododd fy nhaid un i fyny yn Budloy rywbryd tua 1840 gallwn feddwl, ond nid wyf yn meddwl ei bod wedi bod yn gweithio yn hir iawn, oblegid tynnodd ddwr o gyfeiriad arall a gosodod beiriant dyrnu a rhyw fath o chaffcutter i fyny rhywle tua 1860 - efallai cyn hynny...