Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ligeia
Cafodd Hoyland ei hyfforddi yn Ysgolion yr Academi Frenhinol a daeth dan ddylanwad Mynegiadaeth Haniaethol yn ystod ymweliad â'r Unol Daleithiau. Ers iddo ddod yn amlwg ym 1961, mae wedi gweithio fel peintiwr haniaethol ac fel un o feistri lliw blaenaf Prydain. Yn y cyfansoddiad byrlymus hwn, mae'r cynfas wedi ei rannu ar draws a'r naill hanner yn gwadu'n ffurfiol y syniadau a fynegir yn yr hanner arall. Efallai mai llygriad o'r Lladin 'ligea', sy'n golygu 'duwies y coed', yw'r teitl.